Enghraifft o'r canlynol | brand |
---|---|
Math | die-cast toy |
Cysylltir gyda | Corgi Toys, Hot Wheels, Tyco Toys, Lesney Products, Dinky Toys |
Dechrau/Sefydlu | 1953 |
Perchennog | Lesney Products, Tyco Toys, Mattel |
Cynnyrch | model car, model commercial vehicle, slot car racing |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Gwefan | http://www.matchbox.com/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Brand teganau o Loegr yw Matchbox a gyflwynwyd gan gwmni Lesney Products yn 1953. Cychwynwyd y cwmni gan Leslie Smith yn 1947 ac mae nawr yn rhan o Mattel, Inc.[1] Y tri a ddylanwadodd fwyaf ar y cwmni a'r brand oedd John W. "Jack" Odell (1920–2007),[2] Leslie Charles Smith (1918–2005),[3] a Rodney Smith (cyfuniad yw'r enw "Lesney", o Les-lie a Rod-ney).
Prosiect enwocaf Lesney Products oedd ceir "Matchbox" a gychwynwyd yn 1953 pan ofynodd merch un o berchnogion y cwmni, sef Jack Odell, iddo greu tegan a oedd yn ffitio i mewn i focs matsys iddi gael mynd ag e i'r ysgol. Felly creuwyd y "Royal State Coach." Roedd y cynnyrch yn llwyddiannus iawn, lansiwyd y brand, a chreuwyd nifer o geir "Matchbox", sy'n cael eu cynhyrchu hyd at heddiw (2019).[1]